Pobl
- 19 March 2008
Stuart Kershaw

Hyfforddwyd Stuart fel golygydd yn yr Unol Daleithiau ym Mhrifysgol Talaith Penn cyn symud o’r Arfordir Dwyreiniol i Los Angeles lle bu’n canolbwyntio ar farchnata gyda Paramount Pictures. Yna’n ddiweddarach, cafodd brofiad gyda 20th Century Fox. Dychwelodd Stuart i’r DU yn 2003 lle sefydlodd In the Dark Productions gyda Samantha wedi graddio gyda Dosbarth Cyntaf mewn Ffilm ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
Yn ddiweddar, cyfarwyddodd Stuart y ffilm ddogfen Virgin Trade a’r ffilm theatraidd, The Calling. Mae wedi gweithio’n helaeth fel cyfarwyddwr, gweithredwr camera a golygydd ar draws y byd, gan ddilyn digwyddiadau mewn rhanbarthau mor anghysbell ag Alaska, Burma, Palestina a Chashmir fel newyddiadurwr a gwneuthurwr ffilm. Mae Stuart yn arbenigo gyda gwaith mewn lleoedd gelyniaethus a ffotograffiaeth danddwr.
Mae cynnyrch y ffilm cyfarwyddaethol wedi cael ei ddosbarthu ar draws y byd. Mae ei offer cynhyrchu mewnol, cynhwysfawr yn caniatáu iddo weithio’n effeithlon naill ai’n annibynnol, neu fel rhan o dîm, gan ddarparu cyfraddau cystadleuol heb gyfaddawdu â gweledigaeth artistig.
Cyflogwyd Stuart yn ddiweddar fel rhwyfwr a chyfarwyddwr y cwch Gwyddelig a Phrydeinig 2007, oedd yn ceisio torri record byd yn croesi’r môr o Ynysoedd y Caneris i’r Bahamas yn y Caribî.
Sam Fazackerley
![]()
Gan ddechrau yn y Theatr, mae Samantha wedi gweithio ar 25 o gynyrchiadau yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf, gan drosglwyddo’r sgiliau enillodd mewn perfformiad clasurol i natur gyflym ac anrhagweladwy sinema fodern.
Mae Samantha wedi cymryd rhan mewn nifer o rolau mewn amgylcheddau digidol a chlasurol, o Ddylunydd Set i Reolwr Cynhyrchiad, mewn perfformiadau a chynyrchiadau mor bell ac eang o Awstralia ac Alaska i Burma a Phalestina.
Mae Sam wedi gweithio fel cynhyrchydd ar The Virgin Trade, The Calling ac ar broject diweddaraf In the Dark, sef Ocean’s 14. Mae ganddi brofiad helaeth gyda gwerthiant rhyngwladol ar bum cyfandir.
Yn 2003 dyluniodd Samantha In the Dark gyda Stuart Kershaw, gan ffurfio cynghrair creadigol a chyfrwng defnyddiol sydd wedi tyfu i fod yn un o’r rhai mwyaf arloesol a llwyddiannus yn y wlad.
Edward L. Dark
After graduating from Gloucestershire University with a BA honours degree in Film Studies Edward managed to secure himself a job in the film industry working in Visual Effects.
After starting on Roland Emmerich’s 10’000 BC and working on the BBC Production of Wide Sargasso Sea Edward found a job on the New Line Cinema film Inkheart (Directed By Iain Softley) as a Visual Effects Assistant. After becoming a Visual Effects Coordinator on Harry Potter and the Half Blood Prince he has now moved onto the final instalment of the franchise on Harry Potter and The Deathly Hallows Parts 1 & 2.
Re-visiting the short film format has been an ambition for Edward since he screened his first short in the local Odeon Cinema in Worcestershire. However; he has become rather more ambitious since those humble beginning and now plans to Direct and showcase his next project, Chasing Cotards, on the BFI IMAX cinema in London. Watch this space to find out more about The Biggest Short Film Of All Time!
Andrea Mescalchin
![]()
Ers 1997 a sefydlu Digital Movie, mae Andrea wedi bod ar y blaen yn y chwyldro digidol. Syniad Andrea yw cyfathrebu drwy ddychymyg. Gyda’i Stiwdio gyfannol llawn sy’n cael ei chyd-redeg gan ei frawd Matteo, mae Andrea’n ceisio sbarduno ein cleientiaid, i fynegi eu hunain â sain a delweddau.
Mae gan Andrea brofiad o bymtheg mlynedd yn y diwydiant cyfathrebu ac mae wedi gweithio ar nifer o raglenni dogfen, alldeithiau masnachol a gwyddonol ar draws y byd.
Matteo Mescalchin
![]()
Dechreuodd Matteo ei yrfa fel gweithredwr camera gyda theledu Eidaleg yn 1995. Ers hynny mae wedi gweithio fel cyfarwyddwr ffotograffiaeth teledu genedlaethol, cyfarwyddo gosodiadau aml-gamera byw ac wedi ei gyflogi’n rhyngwladol gan fudiadau megis Canal+, Roland Garros, Sky TV a Gŵyl Ffilm Cannes.
Mae Matteo’n arbenigo mewn goleuadau ar leoliad ac yn ei stiwdio y tu allan i Fenis, ond mae’n gyfforddus pan fydd yn gweithio ar rolau cynhyrchu amrywiol y mae wedi cael profiad ohonynt dros y deng mlynedd diwethaf. Trwy weithio ar ei liwt ei hun a gyda Digital Movie, mae Matteo wedi gweithio’n eang ar draws y pedwar cyfandir mewn ardaloedd mor amrywiol â Sudan, yr UD, Yemen a’r rhan fwyaf o Ewrop.
Bee Hope
![]()
Bee sy’n gyfrifol am ein holl waith gweinyddol a hi fydd yn ateb gyntaf yn In the Dark. Os medrwch chi fynd drwyddi ati hi, efallai y medrwch chi gael siarad gydag un ohonom ni. Bu Bee’n gweithio am 12 mlynedd yn y gwasanaeth sifil ac yna mewn cynulliad llywodraeth leol fel swyddog clercaidd. Mae’n sicrhau bod pobl yn ein talu! Hi yw ein craig.
No comments yet.